Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd

Dyddiad: Dydd Llun, 21 Tachwedd 2016

Amser: 14.00 - 16.20
 


Preifat

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Nick Ramsay AC (Cadeirydd)

Mohammad Asghar (Oscar) AC

Neil Hamilton AC

Mike Hedges AC

Neil McEvoy AC

Rhianon Passmore AC

Lee Waters AC

Swyddfa Archwilio Cymru:

Huw Vaughan Thomas

Alan Morris

Matthew Mortlock

Staff y Pwyllgor:

Fay Buckle (Clerc)

Meriel Singleton (Ail Glerc)

Claire Griffiths (Dirprwy Glerc)

Kate Faragher

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

 

1.1        Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Pwyllgor. 

1.2        Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

</AI1>

<AI2>

2       Papur(au) i'w nodi

 

2.1 Cytunwyd ar y cofnodion.

 

</AI2>

<AI3>

3       Ymchwiliad i Drefn Reoleiddio Cymdeithasau Tai

 

3.1 Nododd yr Aelodau fod yr ymgynghoriad ysgrifenedig wedi agor heddiw, a'i fod yn dod i ben ar 5 Ionawr 2017.

3.2 Nododd yr Aelodau y digwyddiad i randdeiliaid a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr gyda thenantiaid cymdeithasau tai.

3.3 Cododd yr Aelodau nifer o bwyntiau i holi yn eu cylch yn y sesiynau tystiolaeth.

 

</AI3>

<AI4>

4       Consortia Addysg Rhanbarthol: Memorandwm gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

4.1 Cafodd y Pwyllgor friff gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch y Memorandwm Consortia Addysg Rhanbarthol a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

4.2 Cytunodd yr Aelodau i gynnal ymchwiliad ar y mater hwn yn y gwanwyn 2017.

 

 

</AI4>

<AI5>

5       Craffu ar Gyfrifon: Trafod yr adroddiad drafft, a chytuno arno

 

5.1 Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru yr hoffai roi sylwadau ysgrifenedig ar yr adroddiad. O'r herwydd, gohiriwyd yr eitem ar gyfer cyfarfod arall yn y dyfodol.

 

</AI5>

<AI6>

6       Adolygiad o ffyrdd Pwyllgorau'r Cynulliad o weithio

 

6.1 Croesawodd y Cadeirydd Kate Faragher o Bespokeskills i'r cyfarfod.

6.2 Rhoddodd Kate Faragher adborth i'r Aelodau ar eu rôl fel Aelodau o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac ar ffordd y Pwyllgor o weithio yn dilyn ei sesiwn flaenorol a gynhaliwyd fel rhan o raglen gynefino'r Pwyllgor ym Medi 2016.

6.3 Gofynnodd yr Aelodau am sesiwn arall ar eu perfformiad yn haf 2017.

 

</AI6>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>